Lleoliad:
[INSERT LOCATION]
Dyddiad: Dydd Llun, 19 Mehefin 2023
Amser:
11. -
15.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13601
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jenny Rathbone AS (Cadeirydd) Jane Dodds AS Altaf Hussain AS Sarah Murphy AS Sioned Williams AS Ken Skates AS |
Tystion: |
Alexa Gainsbury, Iechyd Cyhoeddus Cymru Bethan Pell, School Health Research Network Emily Van De Venter, Iechyd Cyhoeddus Cymru Dr Honor Young, School Health Research Network |
Staff y Pwyllgor: |
Rhys Morgan (Clerc) Rachael Davies (Ail Glerc) Angharad Roche (Dirprwy Glerc) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) Ben Harris |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cafwyd ymddiheuriad gan Ken Skates ar gyfer eitemau 1-5 o’r agenda. Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
2 Papurau i'w nodi
Nododd yr Aelodau y papurau.
2.1 Gohebiaeth gan Brif Weinidog Cymru at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch cyfarfod Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig
2.2 Gohebiaeth rhwng yr Arglwydd Bellamy KC, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch Profiadau Menywod yn y System Cyfiawnder Troseddol
2.3 Gohebiaeth rhwng y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch y Gymuned Roma a’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i wahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 4, 5, a 7 o gyfarfod heddiw.
Derbyniodd yr Aelodau y cynnig.
4 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon: trafod yr adroddiad
Trafododd yr Aelodau’r adroddiad, a chytuno arno, yn amodol ar fân newidiadau.
5 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion
Trafododd yr Aelodau’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion.
6 Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: sesiwn dystiolaeth 6
Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan:
Bethan Pell a Dr Honor Young, y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion
Alexa Gainsbury ac Emily Van De Ventor, Iechyd Cyhoeddus Cymru
7 Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: trafod y dystiolaeth
Trafododd yr Aelodau’r dystiolaeth.